Rydyn ni’n cefnogi cymdogaethau a chymunedau, yn arbennig y rhai a ystyrir fel rhai difreintiedig, gan weithio’n agos gyda sefydliadau partner i wella bywydau pobl leol.

Mae ein prosiectau'n helpu i greu balchder mewn ardaloedd, gan eu gwneud yn lanach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy diogel.

Rydyn ni'n helpu pobl i wella ymddangosiad tir eu hysgolion, parciau, gerddi, tai ac ystadau diwydiannol.  Rydyn ni'n gweithio gyda grwpiau cymuned, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i wella pob math o fannau gwyrdd i bobl eu defnyddio i ymarfer, i eistedd, i blant chwarae ac i bobl o bob oed fwynhau bod yn yr awyr agored.

Yn 2011/12, cyflawnwyd y canlynol:

2,489 coeden wedi'u plannu
114,640 metr sgwâr o dir wedi'u gwella
140,803 metr sgwâr o dir wedi'u cynnal
45 swydd wedi'u creu
56 swydd wedi'u diogelu
5,748 diwrnod o wirfoddoli gan bobl ifanc
11,566 diwrnod o wirfoddoli gan oedolion
498 cymhwyster wedi'u hennill
487 wythnos o hyfforddi wedi'u darparu
111 ysgol wedi cymryd rhan
107 Tunnell fetrig o ollyngiadau CO2 wedi'u harbed neu eu hosgoi
728 Tunnell fetrig o wastraff wedi'u dargyfeirio o dirlenwi
115 prosiect wedi'u cyflawni
20 sefydliad cymunedol wedi'u cefnogi
64 llwybr datblygu (gan gynnwys gwirfoddoli, addysg a chyflogaeth)

Os ydych chi wedi elwa o Brosiect Groundwork, hoffem gael eich adborth.  A fyddech chi cystal â chwblhau ein ffurflen werthuso YMA

Rhif Cofrestru'r Cwmni 2614714. Rhif Cofrestru Elusennol 1004132. Swyddfa Gofrestredig: 3-4 Ffordd Plas Power, Tanyfron, Wrecsam LL13 5SZ