Groundwork Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi’r Ymddiriedolaethau lleol gan gynnig arweiniad strategol i raglenni cenedlaethol, ymchwilio i gyfleoedd ariannu newydd a datblygu partneriaethau newydd ar draws Cymru.

Mae pedair Ymddiriedolaeth Groundwork yn gweithredu'n genedlaethol ac ar draws rhanbarthau'r De Ddwyrain, De Orllewin a Gogledd Cymru:

 

Groundwork Pen y bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot

Groundwork Caerffili

Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf

Groundwork Gogledd Cymru


Mae gan Groundwork Cymru hanes llwyddiannus o weithio mewn ardaloedd trefol a gwledig ar draws Cymru gan gynorthwyo Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cenedlaethol eraill i gyflawni eu nodau.  Me gan ein hystod o raglenni ffocws arbennig ar ymateb i heriau:

Creu Gwell Cymdogaethau

Sgiliau Adeiladu a Rhagolygon Swyddi

Byw a Gweithio mewn Modd mwy Gwyrdd

Rhif Cofrestru'r Cwmni 2614714. Rhif Cofrestru Elusennol 1004132. Swyddfa Gofrestredig: 3-4 Ffordd Plas Power, Tanyfron, Wrecsam LL13 5SZ